CYNLLUN IAITH CYMRAEG YR ADRAN ADDYSG A SGILIAU
Am ragor o wybodaeth am y gwasanaethau y mae'r adran yn eu darparu i'r cyhoedd yng Nghymru, gweler cynllun yr iaith cymraeg
Mae'r cynllun yn amlinellu sut mae'r adran yn bwriadu trin y Cymraeg a'r Saesneg yn gyfartal wrth ddarparu gwasanaethau i'w gwsmeriaid yng Nghymru. Mae'n nodi, er enghraifft, trefniadau ar gyfer ymdrin â gohebiaeth, cyhoeddi dogfennau yn y Cymraeg a'r Saesneg a hysbysebu gweithgarwch a gwasanaethau'r adran yng Nghymru.
Cyfrifoldeb y Cynulliad Cenedlaethol yw'r mwyafrif o swyddogaethau addysg a hyfforddiant yng Nghymru, yn hytrach na'r Adran Addysg a Sgiliau. Nid yw'r cynllun yn berthnasol ond i'r meysydd hynny lle mae'r Adran Addysg a Sgiliau yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth yng Nghymru, sy'n cael eu rhestru ym mharagraff 6 o'r cynllun. Derbyniodd y Cynllun gymeradwyaeth Bwrdd yr Iaith Cymraeg ar 28 Mawrth 2000.
Meysydd y mae gan yr Adran Addysg a Sgiliau gyfrifoldeb amdanynt yng Nghymru
- Benthyciadau Datblygu Gyrfa
- Buddsoddwyr Mewn Pobl
- Cynghorau Sgiliau Sector
- Benthyciadau Hyfforddi Busnesau Bach
- Benthyciadau Myfyrwyr
- Camymddygiad Athrawon
- Cyflogau ac Amodau Gwaith Athrawon
- Pensiynau Athrawon
Fersiynau Cymraeg o ddeunyddiau sy’n ymddangos ar y Rhyngrwyd lle cyhoeddwyd fersiynau Cymraeg o’r copi caled cyfatebol:
BENTHYCIADAU DATBLYGU GYRFA
CONCORDAT RHWNG YR ADRAN ADDYSG A SGILIAU A CHABINET CYNULLIAD CENEDLAETHOL CYMRU
DOGFEN AMODAU A THÂL ATHRAWON 2004 - NODIADAU ESBONIADOL I BENAETHIAID, LLYWODRAETHWYR AC AWDURDODAU ADDYSG LLEOL
POLISI TÂL MODEL I ATHRAWON





